Cronfa Buddsoddi i Gymru

Ar agor ar gyfer ceisiadau

English Language Version of this content

Bydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n ymrwymo £130 miliwn o gyllid newydd i Gymru.

Nod y gronfa yw sicrhau twf economaidd cynaliadwy trwy gynorthwyo arloesedd a chreu cyfleoedd lleol ar gyfer busnesau newydd ac sydd ar dwf ar draws Cymru.

Bydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda benthyciadau llai o rhwng £25,000 a £100,000, gwerth rhwng £100,000 a £2 filiwn o gyllid i ariannu dyledion, a buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn. Mae’r gronfa’n cwmpasu Cymru gyfan, gan gynnwys ardaloedd gwledig, arfordirol a threfol.

Bydd yn cynyddu’r cyflenwad a’r amrywiaeth o gyllid cyfnod ar gyfer busnesau llai ar gyfnod cynnar yn eu datblygiad ar draws Cymru, gan ddarparu cyllid ar gyfer busnesau na fyddai’n derbyn buddsoddiad fel arall o bosibl, ac yn helpu i chwalu’r rhwystrau i gael cyllid.

Mae’r gronfa newydd wedi ymgorffori ymwybyddiaeth am ESG yn ei dyluniad, a bydd yn cynorthwyo economi’r DU i bontio i sero net.

Y Cronfeydd sydd ar Gael

Oes cwestiwn gennych? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.

Cofrestru ar gyfer ein Newyddlen

Cofrestrwch i dderbyn ein negeseuon e-bost i fod gyda’r cyntaf i glywed y newyddion diweddaraf am y Gronfa Buddsoddi i Gymru. Cewch ddewis clywed y newyddion am eich ardal neu gael diweddariadau o bob rhan o’r DU.

Cofrestrwch heddiw