Y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cyhoeddi buddsoddiad mewn darparydd ynni adnewyddadwy yn Abertawe

Press release 03 May 2024

English version of this content

Mae Banc Busnes Prydain wedi cyhoeddi ei ail gytundeb cyllid dyled o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru £130m, gyda buddsoddiad o £100,000 o’r Gronfa Cyllid Dyled, trwy reolwr y gronfa, FW Capital.

Y buddsoddiad yn Economy Energy Group, sy’n ddarparydd ynni adnewyddadwy ym Mharc Menter Abertawe, yw’r ail gytundeb cyllid dyled i gael ei gyhoeddi ar ran y Gronfa Buddsoddi i Gymru, a hynny cwta ychydig wythnosau ar ôl y cyntaf.

Lansiodd Banc Busnes Prydain, a gynorthwyir gan y llywodraeth, y Gronfa Buddsoddi i Gymru ddiwedd Tachwedd 2023 er mwyn hybu’r cyflenwad o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig eu maint ar draws Cymru. Bydd y Gronfa’n cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda benthyciadau llai o rhwng £25,000 a £100,000, cyllid dyled rhwng £100,000 a £2 filiwn, a chyllid ecwiti o hyd at £5 miliwn.

Sefydlwyd Economy Energy Group yn 2014 gan y trydanwr profiadol Anthony Dixey i gyflawni gwaith trydan ar gyfer cwsmeriaid preswyl a masnachol. Ers hynny, mae’r busnes wedi arwain y ffordd yn y sector ynni adnewyddadwy, ac mae’n cynnig gwasanaethau fel prosiectau masnachol mawr i osod technoleg solar, a phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan; darparu atebion ynni adnewyddadwy oddi ar y grid ar gyfer cwsmeriaid anghysbell, a sicrhau bod cartrefi cleientiaid yn integredig â’r technolegau clyfar diweddaraf ar gyfer y cartref.

Dros y deng mlynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi gweld twf yn y galw ac yn ei sylfaen o gleientiaid. Mae ei drosiant wedi cynyddu’n gyson mewn blynyddoedd diweddar, o £380,000 yn 2022 i £620,000 yn 2023, a rhagwelir trosiant o £1.2m yn 2024 yn sgil y buddsoddiad yma.

Nod cymorth Banc Busnes Prydain sydd ar ffurf benthyciad o £100,000 yw hwyluso twf pellach, ac mae hyn wedi caniatáu i Economi Energy Group gyflogi pedwar aelod newydd o staff, gan fynd â’r cyfanswm i naw, gan ychwanegu at eu rhestr o drydanwyr, towyr a labrwyr, sy’n cynnwys dau brentis. Maen nhw wedi prynu wagen fforch godi, pedair fan newydd, wedi ailwampio’r swyddfa ac wedi gosod system TG gyflawn er mwyn helpu i reoli eu twf parhaus.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol uniongyrchol yn cynnwys ymgysylltu â’r holl ysgolion yn yr ardal leol sydd wedi cael grantiau i osod atebion ynni adnewyddadwy yn eu hadeiladau, gan gynnwys grantiau ar gyfer paneli solar a phwyntiau gwefru. Maen nhw’n gweithio gyda chwmnïau ECO4 (cynllun effeithlonrwydd ynni'r llywodraeth â’r nod o daclo tlodi tanwydd a helpu i leihau allyriannau carbon) hefyd er mwyn darparu ynni solar ar gyfer cartrefi sy’n rhedeg ar lo ac olew ar hyn o bryd. Yn ogystal, mae ganddynt nifer o brosiectau mawr cymhleth ar y gweill gydag RGM Vehicle Body Repairs, a’r cwmni rheoli gwastraff ac ailgylchu Gavin Griffiths Group, a sefydlwyd o dan y buddsoddiad newydd ac nad oedd modd ei hwyluso o’r blaen.

Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bobl yn dod atom yn chwilio am atebion i’w problemau ynni, a chyngor ar y ffordd orau o wella a monitro’u defnydd. O ganlyniad, mae gennym botensial cryf ar gyfer twf ac mae’r benthyciad yma gan y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n darparu’r union beth sydd ei angen arnom ni nawr i dyfu a darparu ynni gwyrdd ar gyfer mwy o gwsmeriaid ar draws y wlad.” Anthony Dixey Cyfarwyddwr Economy Energy Group
Rydyn ni wrth ein bodd i gael darparu’r cymorth yma ar gyfer Economy Energy Group. Maen nhw’n darparu amrywiaeth o wasanaethau y mae mawr angen amdanynt ar gyfer cwsmeriaid domestig a masnachol y sector ynni adnewyddadwy sydd ar dwf ar draws Cymru, ac mae yna gwmpas pellach ar eu cyfer dros y blynyddoedd sydd i ddod wrth i hynny gynyddu eto fyth. Bydd cefnogaeth y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n sicrhau bod eu busnes yn gallu tyfu mewn ffordd ddilys a chynaliadwy er mwyn bodloni’r galw yna. Rhodri Evans Rheolwr Cronfeydd y Gronfa Buddsoddi i Gymru yn FW Capital

Rydyn ni’n eithriadol o falch o weld y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n gweithio dros fusnesau fel Economy Energy Group, sy’n chwarae rhan wrth ddatblygu’r Economi Gwyrdd a’n helpu ni i symud i gyfeiriad dyfodol sero net.

Mae eu huchelgais a’r galw cryf y maent wedi ei ddatblygu ar gyfer eu gwasanaethau’n rhywbeth i’w edmygu a’i gefnogi, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y buddsoddiad newydd yma’n mynd ymhell i’w cynorthwyo i gyflawni eu nodau.

Mark Sterritt Cyfarwyddwr Cronfeydd Buddsoddi’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau gyda Banc Busnes Prydain

Am ragor o fanylion: investmentfundwales.co.uk

 

Nodiadau i Olygyddion

Am y Gronfa Buddsoddi i Gymru

Dan adain Banc Busnes Prydain, mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (IFW) yn darparu cymysgedd o gyllid dyled ac ecwiti. Mae IFW yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda Benthyciadau Llai o rhwng £25k a £100k, cyllid dyled rhwng £100k a £2m, a chyllid ecwiti o hyd at £5 miliwn. Mae’n gweithio ochr yn ochr ag amryw o sefydliadau cymorth ac ariannu Llywodraeth Cymru yn ogystal â chanolwyr lleol fel cyfrifwyr, rheolwyr cronfeydd a banciau, i gynorthwyo busnesau llai Cymru ar bob cam yn eu datblygiad.

Mae’r cronfeydd y mae IFW yn buddsoddi ynddynt yn agored i fusnesau â gweithrediadau materol, neu’r rhai sy’n cynllunio i agor gweithrediadau materol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd-ddwyrain, y gogledd-orllewin, y canolbarth, y de-orllewin a’r de-ddwyrain ymysg eraill.

Gyda chefnogaeth Nations and Regions Investment Limited, un o is-gwmnïau British Business Bank Plc, mae’r Banc yn fanc datblygu sy’n llwyr eiddo i Lywodraeth EF. Nid yw Nations and Regions Investment Limited na British Business Bank plc dan awdurdodaeth nac wedi eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) na’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

www.investmentfundwales.co.uk

Am FW Capital

Cwmni rheoli cronfeydd yw FW Capital sy’n rheoli cronfeydd gwerth dros £315.8m yn y DU ar hyn o bryd.

FW Capital sy’n rheoli cronfa £30m IFW – FW Capital Debt Finance, sy’n rhan o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru £130m, ar ran Banc Busnes Prydain. Mae cyllid gwerth rhwng £100,000 i £2 filiwn ar gael i fusnesau ar draws Cymru.

Mae FW Capital yn rhan o’r DBW Group, un o’r buddsoddwyr mwyaf mewn BBaCh yn y DU. Mae’r DBW Group yn rheoli cronfeydd gwerth dros £1.9 biliwn https://developmentbank.wales