Y Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cyhoeddi £95,000 mewn benthyciadau llai i dri busnes

Press release 03 May 2024

English version of this content

Mae Banc Busnes Prydain wedi cyhoeddi’r cytundebau cyntaf am fenthyciadau llai o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (IFW) £130m, gyda thri buddsoddiad gwerth cyfanswm o £95,000 o’r gronfa Benthyciadau Llai trwy reolwyr y gronfa, BCRS.

Y buddsoddiadau gwerth £40,000 yn Wynnstay Self Storage yn Wrecsam, £30,000 yn Bluebox Optics, gweithgynhyrchwr ffotoneg arbenigol yn y Coed Duon, a £25,000 ym Metro Eatery Ltd ym Mro Morgannwg, yw’r benthyciadau bach cyntaf i gael eu cyhoeddi ar ran y Gronfa Buddsoddi i Gymru.

Lansiodd Banc Busnes Prydain, a gynorthwyir gan y llywodraeth, y Gronfa Buddsoddi i Gymru ddiwedd Tachwedd 2023 er mwyn hybu’r cyflenwad o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig eu maint ar draws Cymru. Mae’r Gronfa’n cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda benthyciadau llai o rhwng £25,000 a £100,000, cyllid dyled rhwng £100,000 a £2 filiwn, a chyllid ecwiti o hyd at £5 miliwn. 

Busnes melin lifio teuluol a sefydlwyd ym 1984 oedd Wynnstay Self Storage yn wreiddiol, ac etifeddodd Matt Pritchard y cwmni pan fu farw ei dad a sylfaenydd y busnes, Geoff Pritchard, yn 2016.

Ymunodd Matt â busnes melin lifio’i dad ym 1999 gan agor gweithdy gwaith coed pwrpasol. Wrth i gostau gynyddu, roedden nhw’n mewnforio mwy a mwy o bren, ac ar ôl blwyddyn wrth y llyw, penderfynodd Matt i esblygu ac amrywio a defnyddio’r tir at ddibenion llogi lle storio.

Buddsoddodd mewn hanner dwsin o gynwysyddion amlwytho, ac yn sgil gwrs â ffrind oedd heb le i storio ei garafán pan nad oedd yn ei ddefnyddio, sefydlodd blotiau parcio carafanau ar y safle hefyd.

Pobl yn lledu’r gair sydd y tu ôl i’n llwyddiant, ac rydyn ni wastad yn llawn.

Bydd y buddsoddiad yma’n fy ngalluogi i brynu deg cynhwysydd amlwytho arall a datblygu’r seilwaith i gynyddu maint y busnes fel bod ein tir yn cael ei ddefnyddio’n fwy effeithlon. Rwy’n bwriadu ailadeiladu fy ngweithdy cyfredol er mwyn creu un sy’n fwy addas at y pwrpas hefyd.

Placeholder Name Occupation / Organization

Gweithgynhyrchwr ffotoneg arbenigol sy’n datblygu ffynonellau golau LED ar gyfer microsgopeg fflworolau i’w ddefnyddio yn y sectorau iechyd a meddygaeth yw Bluebox Optics yn y Coed Duon.

Byddan nhw’n defnyddio eu benthyciad o £30,000 o’r IFW fel cyfalaf twf er mwyn helpu i ddod â chyfres o systemau golau LED meddygol i’r farchnad. Mae’r rhain yn cynnwys systemau ar gyfer microsgopeg fflworolau ac endosgopeg, a disodli systemau lampau â golau LED at ddibenion microsgopeg.

Mae hyn yn cynnwys systemau ffibr opteg cysylltiedig hefyd, sy’n golygu bod llawfeddygon yn gallu gweld mwy ar y sgriniau clinigol a ddefnyddir wrth gyflawni llawfeddygaeth twll clo

Rydyn ni wedi gweithio’n helaeth gyda phrifysgolion ar brosiectau ymchwil i ddyfeisiau meddygol, a bydd y benthyciad yma’n caniatáu i ni ddatblygu trafodaethau sydd wedi bod ar y gweill gyda Choleg Imperial Llundain i ddatblygu system injan golau LED a chamera a fydd yn helpu i wneud llawfeddygaeth ailadeiladol yn sgil canser y fron yn fwy effeithlon.

Mae cael cyllid i ddatblygu, yn hytrach na chynhyrchu, dyfais ym maes technoleg feddygol yn gallu bod yn her.

Mae BCRS a’r Gronfa Buddsoddi i Gymru’n cydnabod ein gweledigaeth ac maent wedi darparu cyngor gwerthfawr o ran cynllunio a rhagolygon y busnes.

Ron Yandle Prif Weithredwr Bluebox Optics
yn defnyddio’r benthyciad nhw cyllid ar gyfer twf er mwyn paratoi ail siop tecawê’r busnes ar Heol Caerdydd, Dinas Powys. Muhammed Mujib Metro Eatery Limited

Sefydlwyd Cronfa Buddsoddi i Gymru'r Banc er mwyn cynorthwyo busnesau llai â’u huchelgeisiau ar gyfer twf, ac mae’r tri benthyciad llai yma’n dyst i hynny.

Mae gan Wynnstay Self Storage, Bluebox Optics a Metro Eatery Limited sylfeini cadarn i adeiladu arnynt, ac mae’n sicr y bydd y cyfalaf twf yma’n eu galluogi i barhau i ddatblygu eu busnesau i’r lefel nesaf. Dymunwn bob llwyddiant iddynt gyda’u twf parhaus.

Mark Sterritt Cyfarwyddwr Cronfeydd Buddsoddi'r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau gyda Banc

Mae BCRS yn falch o gefnogi busnesau bach fel Wynnstay Self Storage, Bluebox Optics a Metro Eatery Limited i gyrchu cyllid fel eu bod nhw’n gallu tyfu a llewyrchu, a bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at lwyddiant economi ehangach Cymru.

Busnesau bach yw asgwrn cefn ein heconomi, ac maen nhw’n rym ar gyfer lles cymdeithasol. Trwy gydweithio â’r Gronfa Buddsoddi i Gymru, byddwn ni’n parhau i sicrhau nad oes unrhyw fusnes hyfyw yn mynd heb gymorth.

Stephen Deakin Prif Weithredwr BCRS

Am ragor o fanylion: investmentfundwales.co.uk

Nodiadau i Olygyddion

Am y Gronfa Buddsoddi i Gymru

Dan adain Banc Busnes Prydain, mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (IFW) yn darparu cymysgedd o gyllid dyled ac ecwiti. Mae IFW yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda Benthyciadau Llai o rhwng £25k a £100k, cyllid dyled rhwng £100k a £2m, a chyllid ecwiti o hyd at £5 miliwn. Mae’n gweithio ochr yn ochr ag amryw o sefydliadau cymorth ac ariannu Llywodraeth Cymru yn ogystal â chanolwyr lleol fel cyfrifwyr, rheolwyr cronfeydd a banciau, i gynorthwyo busnesau llai Cymru ar bob cam yn eu datblygiad.

Mae’r cronfeydd y mae’r IFW yn buddsoddi ynddynt yn agored i fusnesau â gweithrediadau materol, neu sy’n bwriadu agor gweithrediadau materol, ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd-ddwyrain, y gogledd-orllewin, y canolbarth, y de-orllewin, a’r de-ddwyrain.

Am BCRS

Cwmni cydweithredol yw BCRS Business Loans sy’n rhedeg ar sail ddielw. Aelod-fuddsoddwyr sy’n berchen ar y cwmni ac yn ei rheoli ac maent yn ethol Cynrychiolwyr i Fwrdd y Cyfarwyddwyr ym mhob cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Sefydlwyd BCRS yn 2002, ac mae’r cwmni wedi ymrwymo i fenthyca i fusnesau dilys sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant cymdeithasol, amgylcheddol neu economaidd Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr sydd wedi methu â diogelu cyllid trwy fenthycwyr y brif ffrwd. Fel Sefydliad Datblygu Cymunedol Ariannol, ei bwrpas yw darparu mynediad at gyllid er mwyn caniatáu i fusnesau lleol dyfu a llewyrchu. Mae BCRS yn aelod o Responsible Finance sy’n gweithio i greu system ariannol deg yn y DU trwy ddatblygu’r sector cyllid datblygu cymunedol. Am fanylion: bcrs.org.uk