Nisien.AI i gyflymu ei genhadaeth i wneud y byd yn lle mwy diogel ar ôl cael cyllid o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru

Press release 04 April 2025

Mae Nisien.AI, busnes deallusrwydd artiffisial Cymreig arloesol yng Nghaerdydd, wedi derbyn buddsoddiad o Gronfa Buddsoddi i Gymru £130m Banc Busnes Prydain trwy Foresight Group mewn cyd-fuddsoddiad â Banc Datblygu Cymru.

Sefydlwyd y cwmni gan yr Athro Matt Williams (Troseddeg) a’r Athro Pete Burnap (Gwyddorau Data, AI) sy’n academyddion o Brifysgol Caerdydd, llai na dwy flynedd yn ôl, ac mae Nisien.AI yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ganfod ac ymateb i niwed ar lein, fel gwrthdaro ar lein, er mwyn hwyluso trafodaeth a sgyrsiau iach.

Daw’r buddsoddiad hwn ychydig dros flwyddyn ers i Fanc Busnes Prydain, a gynorthwyir gan y llywodraeth, lansio’r Gronfa Buddsoddi i Gymru ym mis Tachwedd 2023 er mwyn hybu’r cyflenwad o gyllid cyfnod cynnar sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig eu maint ar draws Cymru.  

Mae Nisien.AI, sy’n cyflogi 14, yn gweithio gyda chwsmeriaid allweddol sy’n amrywio o bum prif blatfform y cyfryngau cymdeithasol i frandiau byd-eang.

Bydd y buddsoddiad newydd yn caniatáu i’r cwmni barhau i arloesi a thyfu, gan gyflogi pobl allweddol a chyflymu’r gwaith ymchwil a datblygu er mwyn creu cynnyrch newydd a tharfol, fel HERO Detect, ei gynnyrch cyntaf i gynhyrchu refeniw, sy’n defnyddio algorithmau AI i ganfod a dosbarthu niwed ar draws platfformau ar lein mewn amser real.

Yn ogystal â chanfod ac ymateb i niwed ar lein, mae’r cwmni’n gweithio ar gynnyrch AI newydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol sy’n datblygu o ran ‘beth sy’n gweithio’ wrth adeiladu lleoedd ar lein integredig a chydlynol. Mae’r cynnyrch nodedig yma’n mynd i’r afael â phroblemau cadw defnyddwyr/cwsmeriaid ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol a sianeli brand, gan ddefnyddio dull heb sensora sy’n amddiffyn rhyddid mynegiant.

Bydd y cynnyrch yma’n helpu i gymedroli cynnwys a sgyrsiau iach ac integreiddiad cymunedol ar lein. Mae’r swyddogaeth yma’n hanfodol o ystyried y drafodaeth sydd ohoni am ryddid gwybodaeth sy’n hollt barn, lle mae’r opsiwn cyfredol i sensora cynnwys yn llai na delfrydol i’r defnyddwyr, y platfformau a’r brandiau.

Ochr yn ochr â’r buddsoddiad yma, mae Foresight wedi cyflwyno Cadeirydd profiadol, Tony Stockham, i’r busnes. Mae Tony wedi gweithio gyda Foresight ar ehangu busnesau technoleg yn y gorffennol, a bu gynt yn academydd ac yn entrepreneur llwyddiannus ym maes AI.

Bydd y sylfaenwyr, sy’n cymryd rolau Prif Swyddog Gwyddoniaeth (Williams) a Phrif Swyddog AI (Burnap) yn Nisien, yn cadw eu swyddi gyda Phrifysgol Caerdydd hefyd. Cânt eu cynorthwyo gan benodiadau allweddol lefel uwch o’r diwydiant, gan gynnwys Lee Gainer, cyn Brif Swyddog Cyllid Wealthify, sydd wedi ymuno fel Prif Swyddog Gweithredol; Dean Doyle, cyn Bennaeth Cyflawni HateLab, sydd wedi ymuno fel Prif Swyddog Gweithredu; a Rhodri Hewitson, cyn Brif Beiriannydd AM Digital, sydd wedi ymuno fel Pennaeth Peirianneg.

Mae hi’n amser hynod o gyffrous i fod yn tyfu busnes herio yn y sector yma. Gyda’r Ddeddf Diogelwch Ar Lein yn dod i rym cyn bo hir, rydyn ni’n credu bod yna botensial aruthrol ar gyfer twf Nisien.AI. Gyda chymorth Foresight, Banc Datblygu Cymru a Banc Busnes Prydain, rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflymu’r dechrau da y mae’r busnes wedi ei gael ers ei ffurfio, a pharhau i dyfu, gan greu swyddi technoleg newydd cynaliadwy yma yng Nghaerdydd. - Ychwanegodd Lee Gainer Prif Weithredwr Nisien.AI
Rydyn ni’n llawn cyffro i gael gweithio gyda Banc Datblygu Cymru ar ein cyd-fuddsoddiad cyntaf yn Nisien AI. Rydyn ni’n awyddus i weld y gwelliannau y bydd Nisien.AI yn eu darparu o ran diogelwch ar lein, ac yn edrych ymlaen at gael cydweithio â thîm Nisien - Dywedodd Ruby Godrich Rheolwr Buddsoddi gyda Foresight
Sefydlwyd y Gronfa Buddsoddi i Gymru i ddarparu’r gefnogaeth ariannol sydd ei angen ar gwmnïau arloesol ac uchelgeisiol fel Nisien.AI yn aml iawn, ac rydyn ni’n falch o gefnogi eu cynlluniau ar gyfer twf wrth iddynt barhau i arloesi a thyfu. Mae’r cwmni yn sicr wedi ennill ei blwyf fel un i gadw llygad arno ar sin technoleg Cymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at olrhain eu llwyddiant wrth iddynt barhau ar eu siwrnai. - Dywedodd Bethan Bannister Uwch Reolwr Buddsoddi gyda Banc Busnes Prydain
Mae Nisien yn esiampl wych o fusnes Cymreig yn gweithio ar flaen y gad mewn maes sy’n datblygu’n gyflym. Rhan o’n nod yn y Banc Datblygu yw cynorthwyo busnesau yng Nghymru sydd â photensial cadarn i dyfu ac effaith gymdeithasol gadarnhaol. Bydd gwaith Nisien yn gynyddol bwysig ym myd y cyfryngau cymdeithasol sy’n esblygu’n gyflym ac sy’n bwnc llosg cynyddol, ac rydyn ni’n falch o fod wedi eu cynorthwyo yn ystod y cylch hwn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Foresight i gefnogi’r busnes. - Dywedodd Hannah Mallen Gweithredwr Buddsoddi Cynorthwyol ym Manc Datblygu Cymru

DIWEDD

Am ragor o fanylion: www.investmentfundwales.co.uk

Am ragor o fanylion, cysylltwch â:

Lauren Tunnicliffe, Uwch Reolwr Cyfathrebu, Banc Busnes Prydain, [email protected]

Lydia Lambert, Working Word, [email protected]
 

Nodiadau i olygyddion

Am y Gronfa Buddsoddi i Gymru

Dan adain Banc Busnes Prydain, mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru (IFW) yn darparu cymysgedd o gyllid dyled ac ecwiti. Mae IFW yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda Benthyciadau Llai o rhwng £25k a £100k, cyllid dyled rhwng £100k a £2m, a chyllid ecwiti o hyd at £5 miliwn. Mae’n gweithio ochr yn ochr ag amryw o sefydliadau cymorth ac ariannu Llywodraeth Cymru yn ogystal â chanolwyr lleol fel cyfrifwyr, rheolwyr cronfeydd a banciau, i gynorthwyo busnesau llai Cymru ar bob cam yn eu datblygiad.

Mae’r cronfeydd y mae IFW yn buddsoddi ynddynt yn agored i fusnesau â gweithrediadau materol, neu’r rhai sy’n cynllunio i agor gweithrediadau materol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd-ddwyrain, y gogledd-orllewin, y canolbarth, y de-orllewin a’r de-ddwyrain ymysg eraill.
Gyda chefnogaeth Nations and Regions Investment Limited, un o is-gwmnïau British Business Bank Plc, mae’r Banc yn fanc datblygu sy’n llwyr eiddo i Lywodraeth EF.  Nid yw Nations and Regions Investment Limited na British Business Bank plc dan awdurdodaeth nac yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) na’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).

www.investmentfundwales.co.uk
 

Am Foresight Group 

Sefydlwyd Foresight ym 1984, ac mae’n rheolwr buddsoddiadau blaenllaw ym maes asedau go iawn a chyfalaf twf, gan weithredu ar draws y DU, Ewrop ac Awstralia.
Gyda degawdau o brofiad, mae Foresight yn cynnig cyfleoedd buddsoddi deniadol ar gyfer buddsoddwyr sy’n arwain newid. Mae Foresight yn meithrin ac yn tyfu atebion buddsoddi i gynorthwyo newid o ran ynni, datgarboneiddio diwydiannau, cynorthwyo adferiad byd natur, a gwireddu potensial economaidd cwmnïau uchelgeisiol.

Yn rhan o’r mynegai FTSE 250, mae strategaethau amrywiol Foresight yn cyfuno setiau  sgiliau ariannol a gweithredol er mwyn mwyafu gwerth asedau a dod ag elw deniadol i’r buddsoddwyr. Mae ei amrywiaeth eang o gronfeydd preifat a chyhoeddus yn cael ei ategu gan amrywiaeth o atebion buddsoddi a ddyluniwyd ar gyfer y farchnad adwerthu.
Mae Foresight yn unedig dros  rannu’r ymrwymiad i feithrin dyfodol cynaliadwy a thyfu cwmnïau ac economïau llewyrchus. 

Ewch i https://foresight.group am fanylion.

Dilynwch ni ar LinkedIn i gael diweddariadau allweddol.