Prynu ased mawr

Os yw busnes bach am gaffael busnes arall neu fuddsoddi mewn ased mawr, fel offer neu beiriannau arbenigol, mae’n bosibl y bydd angen chwistrelliad o gyllid cyfalaf arno.

Boed hynny er mwyn ehangu, er mwyn darbodaeth neu boed yn gam strategol, gall yr asedau cywir gyflymu twf cwmni newydd, gan ddefnyddio cyllid allanol i bontio i well potensial a llwyddiant.

Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer sialensiau fel:

Costau o’r bron

Gall asedau mawr fod yn fuddsoddiadau sylweddol a gallant fod yn drech na chapasiti ariannol uniongyrchol busnes newydd

Ehangu i raddfa

Gall buddsoddi mewn ased mawr ganiatáu i’ch busnes newydd ehangu ei weithrediadau, cynhyrchu capasiti uwch, neu ddarparu gwasanaethau mewn ffordd fwy effeithlon

ROI

Er bod y gost o gaffael ased sylweddol yn uchel, gall ddod ag elw dros gyfnod estynedig

Effeithlonrwydd

Gall rhai asedau, fel peiriannau neu dechnoleg fwy datblygedig, optimeiddio gweithrediadau, lleihau llafur, a chynyddu cyfraddau cynhyrchu

Benthyciadau pontio

Benthyciad y gellir ei ddefnyddio i “bontio” bwlch yng nghyllid busnesau a rhyddhau cyfalaf yn gyflym yw hwn.

Am fod y benthyciad yn un byrdymor, ac am fod y cyfraddau llog yn uwch o gymharu â mathau eraill o gyllid, mae benthyciadau pontio’n dueddol o gael eu defnyddio i brynu eitemau mawr ar gyfer busnesau.

Dysgwch ragor am fenthyciadau pontio.

Cyllid fflyd fasnachol

Mae hyn yn cael ei ddefnyddio i brynu fflyd o gerbydau.

Y prif opsiynau yw:

  • Llogi dan gontract

    Yn darparu cerbydau yn gyfnewid am daliadau rhentu sefydlog dros gyfnod penodol.

  • Prydles cyllid

    Talu’r swm cyfan mewn rhandaliadau misol, neu â rhandaliadau misol is a thaliad terfynol ar ddiwedd y brydles yn seiliedig ar werth adwerthu disgwyliedig y cerbyd.

  • Hurbwrcas

    Prynu’r cerbyd trwy wneud taliadau sefydlog â llog dros gyfnod penodedig.

Dysgwch ragor am gyllid fflyd fasnachol.

Mae’r opsiynau cyllido’n cynnwys:

Cyllid asedau

Mae hyn yn caniatáu i fusnes gaffael asedau heb roi pwysau ychwanegol ar lif arian neu godi swm sylweddol o gyfalaf gweithio.

Mae cynnyrch yn amrywio, ond ar y cyfan mae’n cynnwys prydlesu ased a gwneud taliadau misol.

Dysgwch ragor am gyllid asedau.

Cyllid mesanîn

Math hybrid o gyllid yw hwn sy’n cyfuno cyllid dyled a chyllid ecwiti.

Mae busnes yn cytuno i ad-dalu’r benthyciad â llog, ond gellir trosi’r ddyled yn gyfrannau yn y cwmni os na all gyflawni’r ad-daliadau.

Dysgwch ragor am gyllid mesanîn.

Morgeisi masnachol

Benthyciad sy’n cynnwys talu blaendal, wedyn ad-daliadau misol â chyfraddau llog amrywiol neu sefydlog yw hwn.

Dysgwch ragor am forgeisi masnachol.

Benthyciadau sicredig

Ar gyfer benthyciad o’r math yma, mae angen darparu gwarant gyfochrog, fel eiddo, cerbydau a pheiriannau i warantu’r swm a fenthycwyd.

Dysgwch ragor am fenthyciadau sicredig.

Prydlesu a hurbwrcasu

Mae prydlesu’n caniatáu i fusnes ddefnyddio ased yn gyfnewid am daliadau rhent, ac mae hurbwrcasu’n cynnwys prynu ased ar ei ben trwy wneud taliadau sefydlog â llog.

Mae’r cyfraddau llwyddo ar gyfer ceisiadau’n uchel, ond os byddwch chi’n diffygdalu ar eich taliadau, gall y benthyciwr adfer yr ased, a allai effeithio eich statws credyd.

Dysgwch ragor am brydlesu a hurbwrcasu.

Grantiau

Cyllid nad oes angen ei ad-dalu yw hyn. Mae rhai grantiau’n darparu cyllid i fusnesau brynu offer.

Gweler yr adran ‘ehangu a thyfu busnes’ am ragor o fanylion.

Dysgwch ragor am grantiau.

British Business Bank plc is a development bank wholly owned by HM Government. British Business Bank plc and its subsidiaries are not banking institutions and do not operate as such. They are not authorised or regulated by the Prudential Regulation Authority (PRA) or the Financial Conduct Authority (FCA). A complete legal structure chart for the group can be found at british-business-bank.co.uk.

Whilst we make reasonable efforts to keep the information in this guide up to date, we do not guarantee or warrant (implied or otherwise) that it is current, accurate or complete. The information is intended for general information purposes only and does not take into account your personal situation, nor does it constitute legal, financial, tax or other professional advice. You should always consider whether the information is applicable to your particular circumstances and, where appropriate, seek professional or specialist advice or support.

Gwerth ei wybod

Gallai prynu fflyd o gerbydau helpu busnes i dyfu, ond hwyrach na fydd gan gwmnïau'r cyllid i wneud hynny. Dyna bwrpas cyllid ariannu fflyd.

Lawrlwythwch y canllaw

Gallwch lawrlwytho’r canllaw llawn Gwneud i gyllid busnes weithio i chi isod:

Lawrlwythwch canllaw (.PDF, 8.97mb) Making business finance work for you - Expanded edition (Opens in new window)

Your previously read articles