Mae busnesau sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau tramor yn wynebu risgiau o ran llif arian a derbyn taliadau gan brynwyr.
Er y gallai’r farchnad fyd-eang gynnig potensial aruthrol, mae ffeindio’ch ffordd trwy holl gymhlethdodau mewnfudo ac allforio’n gallu bod yn waith dyrys a drud.
Gall cyllid da helpu i sicrhau bod eich busnes yn gallu ymdopi â’r sialensiau rheoliadol ac o ran logisteg, yn ogystal â gosod y sylfeini ar gyfer ehangu dramor fel:
Y sialensiau i fusnesau sy’n mewnforio ac yn allforio
Stocio cychwynnol
Mae mewnforio’n aml yn golygu prynu fesul swmp er sicrhau darbodaeth.
Tollau a threthi tramor
Mae mewnforio nwyddau’n gallu denu tollau a threthi tramor, ac mae’r costau hyn yn gallu amrywio yn ôl gwlad a chynnyrch.
Costau cludo
Mae cludo nwyddau ar draws ffiniau, boed ar y môr, yn yr awyr neu dros y tir, yn denu costau sylweddol, yn arbennig wrth ddelio â niferoedd mawr neu eitemau bregus.
Cydymffurfiaeth
Mae gan wahanol wledydd wahanol reoliadau o ran safonau cynnyrch, diogelwch, ac ansawdd, ac mae sicrhau cydymffurfiaeth yn gallu bod yn ddrud.
Yswiriant
Mae yna risg ynghlwm wrth gludo nwyddau’n rhyngwladol, fel difrod, dwyn, neu golli’r nwyddau, sy’n golygu bod yswiriant yn gost hanfodol.
Cynrychiolaeth leol
Mae sefydlu swyddfeydd a storfeydd lleol, neu gyflogi cynrychiolwyr yn y wlad darged yn gallu symleiddio gweithrediadau, ond mae hyn yn gallu golygu costau ariannol.
Amrywiadau mewn arian treigl
Mae gwerth arian treigl yn gallu amrywio, sy’n gallu effeithio ar eich elw – gall cadw rhyw lefel o glustogi amddiffynnol eich helpu chi i oresgyn yr amrywiadau ariannol yna
Mae yna nifer o gynhyrchion ariannol sy’n gallu helpu gydag allforio’r nwyddau a’r gwasanaethau.
Cyllid masnachu (neu allforio)
Mae cyllid masnachu’n darparu gwarantau a blaendaliadau.
Mae’r cynnyrch yn cynnwys:
Llythyrau credyd
Gwarant gan fanc sy’n rhwymo mewn cyfraith y bydd gwerthwr nwyddau’n derbyn taliad gan y prynwr os darperir y nwyddau neu’r gwasanaethau’n brydlon.
Yswiriant credyd allforio
Polisi yswiriant sy’n amddiffyn allforiwr rhag peidio â derbyn taliad gan y prynwr.
Bondiau
Mae’r rhain yn darparu gwarant i’r mewnforiwr rhag ofn nad yw’r allforiwr yn cyflawni rhwymedigaethau’r contract.
Cyllid cadwyn gyflenwi
Mae cyllid o’r math yma’n helpu busnesau i reoli eu cyfalaf gweithio.
Bydd y cyflenwr yn cael taliad cynnar am anfoneb gan gwmni ariannu.
Wedyn bydd y busnes sydd wedi prynu’r nwyddau neu’r gwasanaeth yn talu’r ariannwr pan fo’r anfoneb yn ddyledus.
Cyfleuster Allforio Cyffredinol Cyllid Allforio’r DU (UKEF)
UKEF yw asiantaeth credyd allforio llywodraeth y DU – dysgwch ragor am UKEF. Mae’r Cyfleuster Allforio Cyffredinol (GEF) yn darparu gwarantau rhannol i fanciau i helpu allforwyr y DU i gael gafael ar gyfleusterau cyllid masnach.
Mae hyn yn caniatáu i fusnesau ddatgloi cyfalaf gweithio i hwyluso twf eu busnesau heb fod angen contract allforio penodol.
Gall busnesau ddefnyddio’r cyllid i dalu’r costau pob dydd sy’n gysylltiedig ag allforio. Mae GEF yn caniatáu i allforwyr gyrchu cyfleusterau arian parod fel benthyciadau masnach, a chyfleusterau rhwymedigaethau wrth gefn fel bondiau a llythyrau credyd.
Cynllun Cymorth Bondiau UKEF
Os bydd eich busnes yn ennill contract, mae’n bosibl y bydd angen i chi ddarparu bond.
Gall banc yr allforiwr ddarparu’r bond yn aml, er bod angen gwarant gyfochrog fel rheol. Mae hyn yn gallu rhoi llif arian neu gyfalaf gweithio’r allforiwr dan bwysau.
I ddelio â hyn, mae Cynllun Cymorth Bondiau UKEF yn darparu gwarant ar gyfer hyd at 80% o werth y bond.
British Business Bank plc is a development bank wholly owned by HM Government. British Business Bank plc and its subsidiaries are not banking institutions and do not operate as such. They are not authorised or regulated by the Prudential Regulation Authority (PRA) or the Financial Conduct Authority (FCA). A complete legal structure chart for the group can be found at british-business-bank.co.uk.
Whilst we make reasonable efforts to keep the information in this guide up to date, we do not guarantee or warrant (implied or otherwise) that it is current, accurate or complete. The information is intended for general information purposes only and does not take into account your personal situation, nor does it constitute legal, financial, tax or other professional advice. You should always consider whether the information is applicable to your particular circumstances and, where appropriate, seek professional or specialist advice or support.
Gwerth ei wybod
Sefydlwyd UK Export Finance fel asiantaeth credyd allforio cyntaf y byd ym 1919 ac mae’n helpu allforwyr i gyrchu cyllid ac yswiriant i gynorthwyo eu busnes.
Lawrlwythwch y canllaw
Gallwch lawrlwytho’r canllaw llawn Gwneud i gyllid busnes weithio i chi isod: