Wales SME Access to Finance Report

Report and publications 17 May 2024

Trosolwg o brosiect y Cenhedloedd Datganoledig

Mae adeiladwaith economïau isranbarthol yn gallu amrywio’n sylweddol o fewn gwlad benodol. Mae gan ffactorau fel lleoliad (trefol / gwledig / arfordirol), cefndir perchnogion busnesau (rhyw, oedran ac ethnigrwydd), y sylfaen o fusnesau lleol, maint / aeddfedrwydd y busnesau, a gwneuthuriad sectoraidd oll ran i’w chwarae yn hynny o beth. Mae’r prosiect yma’n ceisio deall i ba raddau y mae’r nodweddion gwahanol yma’n effeithio neu’n dylanwadu ar agweddau at ddefnyddio cyllid allanol ymysg y boblogaeth o BBaCh.

Wrth gefnogi Baromedr Menter Gogledd Iwerddon ers 2021, mae Banc Busnes Prydain wedi gweithio gydag Enterprise Northern Ireland i gael gwell dealltwriaeth o’r gwahaniaethau yn y gallu i gyrchu economïau cyllid ar lefel isranbarthol, ac wedi datblygu ymyraethau pwrpasol yn unol â hynny. Nod y gyfres yma o adroddiadau yw mabwysiadu dull tebyg o weithio ar draws Cymru a’r Alban, mewn partneriaeth â Deallusrwydd Economaidd Cymru a Scottish Enterprise yn y drefn honno, a hynny wrth gymharu’r Gwledydd Datganoledig hefyd.

Canfyddiadau Cymru

  • Nododd bron i hanner BBaCh Cymru (49%) eu bod yn defnyddio cyllid
  • Roedd 1 mewn 5 wedi profi rhwystrau wrth gyrchu cyllid
  • Bydd ar 16% angen cyllid ychwanegol dros y flwyddyn nesaf
  • Roedd 65% o’r rhai oedd angen cyllid yn teimlo’n hyderus am ei ddiogelu

Canfyddiadau is-genedlaethol

  • Nid oedd y defnydd o gyllid allanol yn amrywio’n sylweddol ar draws Cymru ac eithrio mewn dau achos.
  • Yn gyntaf, roedd gorddrafftiau busnes yn fwy poblogaidd yn y Gogledd a’r Canolbarth.
  • Yn ail, roedd defnydd o gyllid anfonebu’n fwy cyffredin yn y De-ddwyrain ac yn llai cyffredin yn y Gogledd.
  • Roedd pedwar rhanbarth Cymru’n led debyg yn nhermau eu rhagolygon ar gyfer twf.

Cymharu’r Gwledydd Datganoledig

  • Roedd defnydd o gyllid yn uwch yng Ngogledd Iwerddon (56%) a’r Alban (62%) nac yng Nghymru (49%).
  • Roedd Cymru (20%) yn debyg i Ogledd Iwerddon (21%) o ran y gyfran o BBaCh sy’n wynebu rhwystrau i gyllid, ond yn is na’r Alban (38%).

Bydd ar gyfran is o BBaCh yng Nghymru (16%) angen cyllid ychwanegol dros y flwyddyn nesaf nac yn yr Alban (39%) a Gogledd Iwerddon (38%)

Devolved Nation project overview

The make-up of sub-national economies can vary significantly within a particular nation. Factors such as location (urban/ rural/coastal), the background of business owners (gender, age and ethnicity), the local business base, the size/maturity of businesses, and the sectoral make up all have a part to play. This project seeks to understand the extent to which these differing characteristics affect or influence attitudes towards the use of external finance amongst the SME population.

Having supported the Northern Ireland Enterprise Barometer since 2021, the British Business Bank has worked with Enterprise Northern Ireland to better understand the differences between sub-national access to finance economies and developed bespoke interventions accordingly. This series of reports seeks to adopt a similar approach across Wales and Scotland, in partnership with Economic Intelligence Wales and Scottish Enterprise respectively, whilst simultaneously undertaking a Devolved Nations comparison.

Wales findings

  • Nearly half of Welsh SMEs (49%) reported using finance
  • 16% requiring additional financing over the next year
  • 65% requiring finance felt confident about securing it

Sub-national findings

  • Business overdrafts were more popular in North and Mid Wales.
  • Invoice financing was more frequently reported in South East Wales and less in North Wales.

Devolved Nations comparison

  • Finance use was higher in Northern Ireland (56%) and Scotland (62%) than in Wales (49%).
  • A lower share of SMEs in Wales require additional financing over the next year (16%) than in Scotland (39%) and Northern Ireland (38%).